Home > Cymru

Cymru

Mae yna 10,500 o fusnesau lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth ledled Cymru.

Mae'r sector yng Nghymru'n cyflogi 86,100 o weithwyr - 5% o holl weithlu'r sector yn y DU – ac mae 83 y cant o'r busnesau'n cyflogi llai na deg o bobl.

Mae gan y sector bresenoldeb sylweddol ar draws y pedwar rhanbarth. Er y ceir cwmnïau mawr o'r DU a chwmnïau mawr rhyngwladol ar draws coridor yr M4, busnesau annibynnol a geir yn bennaf yn y sector yng Nghymru


Cytundeb Sgiliau Sector i Gymru

Yn sgil gwaith ymchwil ar raddfa fawr a wnaeth People 1st yn 2006, datblygwyd Strategaeth Genedlaethol Sgiliau i ymdrin â'r blaenoriaethau o ran sgiliau a'r farchnad lafur ar draws y sector. Craidd y cytundeb yw cynllun deg pwynt sy'n ymdrin â phedair blaenoriaeth:

  • Rheoli ac arwain
  • Gwasanaeth cwsmeriaid
  • Sgiliau coginio
  • Cadw staff

Mae'r cytundeb yn nodi sut y gellir ymdrin â'r materion hyn trwy bartneriaeth rhwng cyflogwyr y sector a'r llywodraeth

Ar hyn o bryd mae People 1st yn ymgynghori ar gynllun diwygiedig er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau diweddar i bolisi a gyhoeddwyd trwy strategaeth ‘Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru' a sicrhau bod y sector yn barod i groesawu Cwpan Ryder yn 2010.

Fel rhan o'r gwaith ymchwil ar gyfer y Cytundeb Sgiliau Sector, gwnaeth People 1st asesiad o anghenion sgiliau i Gymru – cliciwch yma i weld yr adroddiad.


Adolygu Cymwysterau

Rhan hanfodol o'r strategaeth yw sicrhau bod y cymwysterau sydd ar gael i'r sector yn diwallu anghenion cyflogwyr. Drwy gydol y flwyddyn 2007, ymgynghorodd People 1st â chyflogwyr a phartneriaid er mwyn deall yr anghenion hynny ac mae wedi llunio strategaeth a rhaglen gyflwyno uchelgeisiol ar gyfer datblygu cymwysterau yng Nghymru sydd â'r nod o:

  • symleiddio'r ddarpariaeth bresennol
  • sicrhau bod cymwysterau'n atgyfnerthu llwybrau datblygu cydlynol
  • cyflwyno'n hyblyg mewn unedau bach

Cliciwch yma i ddarllen crynodeb gweithredol o'r Strategaeth Cymwysterau Sector

Llinell Gymorth Gymraeg

PhoneOs hoffech siarad gyda rhywun drwy gyfrwng y Gymraeg, ffoniwch ein llinell gymorth Gymraeg ar 02920 561000