Home > Cymraeg

Cymraeg

People 1st Cymru yw'r Cyngor Sgiliau Sector dros Lletygarwch, Trafnidiaeth i Deithwyr, Teithio a Thwristiaeth , sy'n gweithio i weddnewid sgiliau – yn enwedig sgiliau rheoli ac arwain, gwasanaeth cwsmer a chrefftau – yn y diwydiant egnïol a chynyddol hwn.

Rydym yn cynrychioli cyflogwyr yn y 20 o ddiwydiannau y mae'r sector lletygarwch, trafnidiaeth i deithwyr, teithio a thwristiaeth yn eu cynnwys:

  • Gwasanaeth bwyd contract
  • Digwyddiadau
  • Gamblo
  • Parciau gwyliau
  • Gwasanaethau lletygarwch
  • Hosteli
  • Gwestai
  • Clybiau aelodaeth
  • Tafarnau, bariau a chlybiau nos
  • Tai bwyta
  • Llety hunanarlwyo
  • Gwasanaethau twristiaid
  • Gwasanaethau teithio
  • Atyniadau ymwelwyr
  • Hedfan
  • Bws
  • Coets
  • Rheilffyrdd
  • Tasci, hurio preifat a gyrwyr
  • Cynllunio trafnidiaeth

Rydym wedi ymrwymo i roi cymorth i gyflogwyr er mwyn sicrhau bod cymwysterau'r addysg a'r hyfforddiant yn cyflawni anghenion sicr diwylliant, gan helpu i hybu'r safonau wrth ddarparu hyfforddiant yn gyffredinol.


Cymorth i Gyflogwyr ledled Cymru

Rydym yn sicrhau bod cyflogwyr yn y diwydiant lletygarwch, trafnidiaeth i deithwyr, teithio a thwristiaeth ym mhob cwr o Gymru yn elwa i'r eithaf ar ein rhaglen strategol. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar:

  • Wella sgiliau pobl sydd eisoes yn ein diwydiant
  • Datblygu sgiliau pobl sy'n dod o'r newydd i'n Diwydiant

Rydym yn ymchwilio i anghenion diwydiant er mwyn darganfod y materion o bwys sy'n wynebu busnesau. Ar y cyd â chyflogwyr, sefydliadau dysgu a chyrff y llywodraeth, rydym yn datblygu a chynnal y cymwysterau iawn ac yn sicrhau y buddsoddir arian y llywodraeth lle mae'n gallu talu ar ei ganfed yn unig. Y canlyniad? Pobl gyda sgiliau gwell, busnesau mwy cynhyrchiol a gwell gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus.

Mae crynodeb isod o rywfaint o'n rhaglen waith bresennol.


1. Gwella sgiliau pobl sy'n gweithio yn ein diwydiant

Mae ein gwaith yma yn canolbwyntio ar bump o brif feysydd:

Sefydlu gwasanaeth cwsmer gyda'r gorau yn y byd

Mae People 1st wedi llwyddo i gael yr unig hawliau i gyflwyno WorldHost™. Datblygwyd y rhaglen rymus hon gan Dalaith Columbia Brydeinig i hybu safon gwasanaeth cwsmer ar gyfer Gemau Gaeaf Canada 2010. Mae agos i filiwn o bobl ledled y byd wedi eu hyfforddi gyda WorldHost ac wnaeth chwarae rhan allweddol wrth baratoi'r DU ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012. Rydym wedi addasu'r rhaglen ar gyfer anghenion cyflogwyr ym maes twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru ac wedi gweithio gyda Chroeso Cymru i sicrhau eu bod yn cynnig ‘Croeso Cynnes Cymreig'. I weld sut mae WorldHost yn gallu rhoi cymorth i'ch sefydliad chi gyda chynnig gwasanaeth cwsmer gyda'r gorau yn y byd, cysylltwch â worldhost@people1st.co.uk neu ffonio 01895 817014.

Rhagweld yr angen am sgiliau yn y dyfodol

Mae'n debygol y bydd y cyflenwad o fwyd a diod yn newid gyda'r deng mlynedd nesaf oherwydd ystyriaethau amgylcheddol, deddfwriaeth a ffactorau eraill y disgwylir iddynt ddylanwadu ar y gadwyn fwyd. Mae People 1st, ar y cyd â chynghorau sgiliau sector eraill – Lantra (amaeth a chynhyrchu ar dir), IMPROVE (gweithgynhyrchu bwyd) a Skillsmart (Manwerthu) –yn bwrw ymlaen ag ymchwil ddwys i ddarganfod y sgiliau y bydd ar fusnesau eu hangen yn y dyfodol.

Datblygu sgiliau pen-cogyddion uwch

Mae'r Gwobrau Doniau Cymhwysol - (neu'r A Driphlyg o'r geiriau Saesneg Applied Ability Awards)- yn rhaglen wedi ei datblygu gan bencogyddion blaenllaw drwy'r wlad. Mae People 1st wedi sicrhau cyllid i dreialu lefel uchaf y rhaglen er mwyn helpu i well sgiliau a gwybodaeth pencogyddion mewn swyddi uwch.

Datblygu llwybrau gyrfa ar gyfer pencogyddion

Mae People 1st yn cynnal ymchwil gyda pencogyddion blaenllaw i geisio deall y llwybrau trwy eu gyrfaoedd a datblygu llwybrau dilyniant sy'n ysbrydoli pencogyddion hen a newydd fel ei gilydd i feithrin eu gyrfaoedd eu hunain. Byddwn yn ymchwilio hefyd i weld pam bod cymharol ychydig o ferched yn bencogyddion uwch a cheisio dod o hyd i ddulliau a allai fod yn fodd i wella'r gymhareb hon.


2. Datblygu sgiliau pobl sy'n dod o'r newydd i'n diwydiant

Rydym yn gweithio gyda diwydiant i wella cymwysterau yn yr ysgol a'r coleg a datblygu prentisiaethau yn y gweithle a hyfforddiant cyn cyflogi.Ein nod yw sicrhau bod newydd ddyfodiaid yn dod â'r sylfaen o sgiliau, gwybodaeth a pharodrwydd i weithio er mwyn cyfrannu i'w cyflogwyr o'r diwrnod cyntaf ymlaen heb fod angen ail-hyfforddiant drudfawr arnynt!

Rhaglenni prentisiaeth o'r radd flaenaf

Mae'r Rhaglen Llwybrau i Brentisiaeth yn rhaglen gyffrous tros ddwy flynedd sy'n cyfuno'r hyn sydd orau yn hyfforddiant coleg a gweithle er mwyn datblygu pencogyddion a goruchwylwyr o'r radd flaenaf. Datblygwyd yn rhaglen gan People 1st ar y cyd â phrif golegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Mae'r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt gan ennill cymeradwyaeth cyflogwyr ledled y wlad. Cysylltwch â ni i weld sut y gallwch recriwtio person graddedig o'r rhaglen unigryw hon!

Newid y gyfundrefn addysg

Mae People 1st, ar y cyd â chyflogwyr a phrif randdeiliaid, yn datblygu llwybr gyrfa newydd ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed sydd am ehangu eu gorwelion oddi ar y llwybr academaidd traddodiadol. Gan gyfuno cymwysterau'r diwydiant a gwir brofiad yn y gweithle, bydd y llwybr newydd trwy ddysg a gyrfa yn rhoi i bobl ifanc y cyfle i weld, clywed a theimlo'n wirioneddol y cyfloed y mae ein diwydiant yn eu cynnig.

Cefnogi colegau a hyfforddwyr yn y gwaith

Rydym wedi datblygu rhaglen o ddatblygu proffesiynol a fydd yn fodd i diwtoriaid mewn colegau a hyfforddwyr yn y gwaith fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant a meithrin cysylltiadau a pherthynas agosach gyda busnesau lleol.

Datblygu cymwysterau newydd

Bydd cymhwyster newydd ac uwch mewn gwasanaeth bwyd yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr a chyffredinol i ddysgwyr o reoli perfformiad, gwasanaeth bwyd uwch, gwasanaeth arian a llawer mwy.

Hyfforddiant cyn cyflogi

Mae ein rhaglen o hyfforddiant cyn cyflogi - Employment 1st - yn paratoi pobl a allai ddod i weithio yn y sector. Gyda chymeradwyaeth cyflogwyr a Chanolfan Byd Gwaith, mae'n fodd i bobl ifanc sy'n chwilio am waith gael y sgiliau a'r wybodaeth y mae ar y diwydiant eu hangen, fel na fydd rhaid i'w cyflogwr newydd wario cymaint ar hyfforddiant cychwynnol.


Bwrw iddi?

Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr o amrywiaeth fawr o sefydliadau ledled Cymru. Mae'r cyflogwyr hyn yn llawn brwdfrydedd ynglyˆn â'u diwydiant. Maent wedi ymrwymo i ddatblygu eu gweithwyr i greu busnes gwell a chadarnach. Mae llawer yn awyddus i helpu i wella'r gyfundrefn addysg o'r ysgol ymlaen a rhannu'r dewis anferthol o gyfleoedd gyrfaol cyffrous sydd gan ein diwydiant i'w cynnig.

Byddwn yn parhau i ymgynghori ag amrywiaeth eang o gyflogwyr a fydd yn gweithio gyda ni i ddatblygu'r hyfforddiant gorau ar gyfer pobl yn y diwydiant a sicrhau'r paratoad gorau ar gyfer y rhai sy'n dymuno dod i mewn iddo mewn modd effeithiol iawn er mwyn ‘rhoi rhywbeth yn ôl'.

Os ydych chi am glywed rhagor am unrhyw ran o'n gwaith, mae croeso i chi ymweld â'n gwefan neu gysylltu ag aelod o People 1st Cymru.

Phil.Raynsford@people1st.co.uk - Ffôn: 07769 643 218

Bryan.Roderick@people1st.co.uk - Ffôn: 07920 581 370

John.Humphreys@people1st.co.uk - Ffôn: 07917 815 245

Chris.King@people1st.co.uk - Ffôn: 07834 659 325